Credwn mai’r ffordd orau i ddysgu sgiliau hanfodol bywyd fel rheoli arian ac entrepreneuriaeth yw trwy eu rhoi ar waith. Dyna pam rydyn ni’n rhoi profiad ymarferol i bobl ifanc i wella eu hyder a helpu i ddatgloi eu potensial i gael dyfodol llwyddiannus.
Rhaglen fenter genedlaethol am ddim yw’r Her 10X sy’n rhoi profiad ymarferol i bobl ifanc, 11 i 19 oed, o sut beth yw bod yn entrepreneur. Mae’n ffordd ryngweithiol iawn o ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, cynyddu eu parodrwydd ar gyfer gwaith a chymhwyso dysgu academaidd, gan ddefnyddio arian a phrofiad busnes go iawn.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod pob athro a rhiant yn teimlo bod ganddyn nhw’r gallu a’r hyder i ddatgloi potensial entrepreneuriaid ifanc, felly rydyn ni’n darparu adnoddau parod i’w haddysgu y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a gartref. Rydyn ni hefyd yn cynnig platfform ar gyfer myfyrwyr i annog dysgu annibynnol.
Fe gawson ni lawer o hwyl yn cymryd rhan yn yr her yma unwaith eto eleni! Byddwn ni’n sicr yn ei chynnal eto. Fe gefnogon ni’r myfyrwyr a rhoi cyfleoedd iddyn nhw werthu yn ystod perfformiad drama’r ysgol, a fu’n boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr a rhieni!
Roedd yn brofiad rhyfeddol ac roedd hefyd wedi rhoi cyfle i mi fod yn fwy o unigolyn a datblygu fy addysg a’m cyfleoedd dysgu
Rhaglen gan yr elusen genedlaethol Young Enterprise yw’r Her 10X. Ers 1962, mae Young Enterprise wedi gweithio gyda’r sectorau busnes ac addysg i ymgysylltu â dros bedair miliwn o blant. Credwn yn angerddol mewn grym ‘dysgu trwy wneud’ a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud ac y mae’n parhau i’w wneud i fywydau, dyfodol ac uchelgeisiau plant.
www.young-enterprise.org.uk